metapixel

Amdanom ni

Johns’ Boys yw un o’r corau meibion mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain.

Ffurfiwyd y côr yn ôl yn 2016 er mwyn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog, a hynny er mwyn talu teyrnged i ddau o arweinwyr corawl mwyaf dylanwadol y pentref – John Glyn Williams and John Tudor Davies – y ddau John y mae’r côr wedi’u henwi ar eu hôl.

Yn dilyn llwyddiant yr achlysur arbennig hwnnw, daeth yn amlwg i Aled a’r holl gantorion mai ffolineb fyddai peidio parhau i wneud cerddoriaeth gyda’i gilydd.

Perfformiad buddugol Johns’ Boys yng nghystadleuaeth Côr y Byd, Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen 2019

Daeth llwyddiant yn gyflym i Aled a’r côr, wrth iddynt gyrraedd rownd derfynol Côr y Flwyddyn y BBC yn 2016 – y côr meibion cyntaf i gyflawni hynny yn hanes y gystadleuaeth.

Y mae’r côr wedi parhau i fynd o nerth i nerth fyth ers hynny: yn 2019 daeth y côr i’r brig yng nghystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – y tro cyntaf i gôr meibion o Gymru gipio tlws Pavarotti, a dim ond y trydydd côr meibion i gyflawni hynny yn hanes y gystadleuaeth.

Bu 2019 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i’r côr wrth iddynt ennill categori’r corau lleisiau unfath yng nghystadleuaeth Côr Cymru a’r cystadleuaeth corau meibion yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Er y bu’n rhaid iddynt ganslo neu ohirio llawer iawn o gyngherddau ac ymrwymiadau eraill, bu Johns’ Boys yn weithgar iawn trwy gydol pandemig COVID-19, gan godi arian i elusennau amrywiol trwy gyfrwng cyngherddau rhithwir a pherfformiadau ar-lein.

Gwnaethant hefyd ymddangos ar nifer o raglenni teledu yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys yng Nghyngerdd Gala Tangnefedd Eisteddfod Llangollen (S4C), Noson Lawen (S4C) ac yn Noson Olaf y Proms (BBC), lle y gwnaethon nhw berfformio trefniant Aled o glasur Rhys Jones, ‘O Gymru’. Dewiswyd y côr i ymddangos yn nrama afaelgar Netflix, Stay Close, yn ogystal, a hynny’n dilyn galwad cenedlaethol.

Recordiad o ‘You’ll Never Walk Alone’, Gorffennaf 2021

Mae Johns’ Boys yn wynebau cyfarwydd ar lwyfannau ledled y wlad, a châi’r côr eu gwahodd yn rheolaidd i ganu yn Stadiwm Principality cyn gemau rygbi rhyngwladol cartref Cymru. Mae aelodau’r côr yn hanu o bob rhan o Ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gyda sawl aelod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, Sefydliad BIMM hefyd ym Manceinion, yn ogystal â phrifysgolion blaenllaw eraill ledled y wlad.

Mae llawer o aelodau’r côr wedi profi llwyddiannau nodedig fel unawdwyr yn ogystal, gyda sawl un yn ennill gwobrau mewn eisteddfodau ac mewn nifer o wyliau cerdd. Mae aelodau’r côr wrth eu boddau’n creu cerddoriaeth y tu hwnt i repertoire traddodiadol corau meibion, gan ganu caneuon mewn amryfal genres megis opera, cerddoriaeth bop a’r avant-garde. Maent hefyd yn mwynhau perfformio cerddoriaeth newydd a threfniannau a ysgrifennwyd yn arbennig ar eu cyfer.

Bydd llawer o gefnogwyr newydd yn fwy cyfarwydd â Johns’ Boys yn dilyn eu campau ar Britain’s Got Talent. ‘Biblical’ gan Calum Scott oedd y gân y gwnaethon nhw’i pherfformio yn eu clyweliad, a llwyddodd y côr i swyno’r beirniaid â’u lleisiau penigamp – a syrpréis hynod annisgwyl iddynt oedd gweld pawb yng nghynulleidfa Canolfan Lowry ym Manceinion yn codi ar eu traed i’w cymeradwyo ar ddiwedd eu perfformiad. Derbyniodd Johns’ Boys bedwar ‘Ie!’ gan bob un o’r beirniad, gan eu galluogi i symud ymlaen i’r rowndiau cynderfynol byw.

Derbyniodd y côr ganmoliaeth bellach am eu perfformiad o ‘Falling’ gan Harry Styles yn y rowndiau cynderfynol, gan lwyddo i blesio neb llai na Simon Cowell. Wrth ymateb i berfformiad y côr, dywedodd Cowell, “roedd hon yn foment… roedd eich dewis o gân yn wych, ac rydych chithau’n gôr gwych. Mi wnes i fwynhau gwrando arnoch chi’n fawr iawn!” Yn ogystal â’r ganmoliaeth hon, fe gafodd Johns’ Boys miloedd – miliynau, yn wir – o ddilynwyr newydd, gyda 2 filiwn yn gwylio eu perfformiadau ar YouTube ac 16 miliwn pellach yn gwylio’u perfformiadau ar Facebook.

Mae’r côr wedi derbyn nifer iawn o geisiadau am gyngherddau o bob rhan o’r byd ers ymddangos ar Britain’s Got Talent, a’r peth nesaf sydd ganddynt ar y gweill yw cynnal cyfres o gyngherddau ledled Prydain yn 2024 a rhyddhau eu EP cyntaf, ‘Simply Biblical’.

Beth mae pobl yn dweud amdanom ni

“Roedd eich perfformiad yn brydferth iawn! Roedd hon yn foment. Roedd eich dewis o gân yn wych, ac rydych chithau’n gôr gwych. Mi wnes i fwynhau gwrando arnoch chi’n fawr iawn! Rydym ni wedi cael llawer o gorau ar y sioe yma ond does neb hyd yma wedi cael eu moment: ond mi wnaethoch chi lwyddo.”

 

Simon Cowell – Beirniad Britain’s Got Talent

Sŵn gwefreiddiol, roeddwn i wrth fy modd – ‘roeddech chi’n llwyddo i symud yn ddiymdrech rhwng gwahanol arddulliau a genres

 

Mary King – Hyfforddwr Lleisiol

Gwnaethoch argraff arnaf o’r nodyn cyntaf gyda’ch sain ardderchog, cyfoethog a’ch portread rhagorol o’r geiriau.

 

Ralph Allwood – Cyn-Gyfarwyddwr Cerdd Coleg Eton