metapixel

Ein harweinydd

Aled Phillips

Sylfaenydd, Cyfarwyddwr Artistig, ac Arweinydd

Câi Aled ei ystyried fel un o arweinwyr corawl mwyaf llwyddiannus ac uchelgeisiol y wlad. Mae Aled wedi ennill clod rhyngwladol a chenedlaethol gan feirniaid o fri o bob rhan o’r byd.

Mae ei wybodaeth helaeth o repertoire, ei ddealltwriaeth o ganu corawl, ac angerdd llwyr dros gerddoriaeth wedi arwain at lwyddiant ysgubol.

Yn gerddor profiadol sydd wedi arwain corau meibion, corau merched, corau cymysgryw a chorau phlant, mae Aled wedi ennill llawer o wobrau dros y blynyddoedd, gan gynnwys yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn y BBC, Côr Ysgol y Flwyddyn ac yng nghystadleuaeth Côr Cymru, lle enillodd Wobr yr Arweinydd Gorau yn 2013.

Yn 2019, Aled oedd yr arweinydd cyntaf i ennill gwobr Côr y Byd gyda chôr meibion o Gymru yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Mae Aled wedi arwain ar lwyfannau ledled y DU, gan weithio gyda cherddorfeydd preswyl rhai o neuaddau cyngherddau amlycaf y wlad yn ogystal ag artistiaid unigol blaenllaw. Mae Aled wedi arwain yn Neuadd Frenhinol Albert, Neuadd Bridgewater, Neuadd Frenhinol Ffilharmonig Lerpwl, Neuadd Symffonig Birmingham ac yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Yn ogystal â hyn, mae ei drefniadau corawl wedi cael eu perfformio ar nifer o raglenni teledu a radio, gan gynnwys Last Night of the Proms, Britain’s Got Talent, BBC Sunday Morning Worship, cyfres ddrama Netflix Stay Close, rhaglenni BBC World Choir Concert, Noson Lawen a rhaglen arbennig Nadolig Only Boys Aloud.

Beth mae pobl yn dweud amdanon ni

“Rydych chi’n cynhyrchu sain gyfoethog, hyfryd, cadarn a thyner – rydych chi’n canu ag egni gwych.”

 

Harry Christopher – Sylfaenydd ac Arweinydd Côr The Sixteen

“Tonyddiaeth ragorol a sain gadarn, wych. Mae’r ffordd rydych chi’n gallu cyfathrebu gyda’r gynulleidfa wedi gwneud argraff fawr arna i. Cadwch afael yn y swyn a’r ysbryd sy’n disgleirio trwy eich canu.”

 

Danielle de Niese – soprano rhyngwladol

“Mae eich grŵp yn gôr ardderchog gyda chymaint o bosibiliadau. Mae’r elfen weledol i’ch perfformiadau yn amlwg iawn. Diolch am eich gwaith.”

 

Dr Anthony Trecek-King – Cyfarwyddwr Cerdd, Côr Plant Boston