Am brofiad ac anrhydedd oedd cael y cyfle i berfformio ochr yn ochr ag enillydd sioe Britain’s Got Talent, Viggo Venn, ar lwyfan Neuadd Albert yn Llundain. Pleser pur hefyd oedd cael canu o flaen y Tywysog William a’r Dywysoges Catherine. 🏴
Efallai bod angen i ni weithio ychydig ar ein symudiadau dawns, ond mi wnaethon ni fwynhau pob eiliad! 🕺
Gallwch weld mwy o glipiau a lluniau ‘tu-ôl-i’r-llen’ ar ein cyfrif Instagram neu gallwch wylio’r holl beth ar ITVX.